Barn y cyhoedd ar farw â chymorth yng Nghymru
Cefnogaeth gyhoeddus ysgubol I newid y gyfraith
This page is also available in English.
Fe gomisiynwyd yr arolwg barn mwyaf erioed gennym ar farw â chymorth yng Nghymru, sy’n dangos:
- Mae pob un o’r 16 etholaeth newydd yn cefnogi newid y gyfraith
- Dywedodd mwy na saith o bob deg o’r ymatebwyr (72%) y byddent yn cefnogi ei gwneud hi’n gyfreithlon i rywun geisio marw â chymorth yng Nghymru, gyda dim ond 15% yn gwrthwynebu
Eich data lleol
Chwiliwch gan ddefnyddio’r map isod i ddod o hyd i lefel y gefnogaeth yn eich etholaeth:
Cynhaliwyd yr arolwg gan Opinium Research ar ran Dignity in Dying, a chasglwyd barn 4,000 o bobl ledled Cymru. Dywedodd 72% eu bod yn cefnogi cyfreithloni marw â chymorth yng Nghymru i oedolion sy’n dioddef o salwch terfynol sydd â gallu meddyliol.
Canfu’r arolwg hefyd:
- Dywedodd 76% pe bai cymorth i oedolion sy’n dioddef o salwch terfynol yn opsiwn cyfreithiol yn Lloegr, y dylai fod yn opsiwn cyfreithiol yng Nghymru hefyd
- Pe bai marw â chymorth yn gyfreithlon, mae tri o bob pump o’r ymatebwyr (62%) yn credu y dylai fod yn hygyrch fel rhan o wasanaethau GIG Cymru tra mai dim ond 17% sy’n credu y dylid ei ddarparu trwy wasanaeth ar wahân, nad yw’n rhan o’r GIG
- Mae 68% yn credu y byddai’n annheg i farw â chymorth fod ar gael trwy’r GIG yn Lloegr ond yn breifat yng Nghymru yn unig
- Cefnogaeth sylweddol ar gyfer marw â chymorth ar draws y sbectrwm gwleidyddol, gyda mwyafrifoedd clir ymhlith pleidleiswyr o bob plaid. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n bwriadu pleidleisio dros y Blaid Werdd (85%), Plaid Cymru (78%), Llafur Cymru (77%), Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (74%), Reform (70%), a Cheidwadwyr Cymru (67%)
Ynglŷn â’r data hwn
Cynhaliwyd yr arolwg barn a ddyfynnwyd uchod gan Opinium. Canlyniadau arolwg barn ymhlith 4,000 o oedolion 18 oed a hŷn yng Nghymru, gyda gwaith maes wedi’i gynnal rhwng 23 Rhagfyr 2025 a 19 Ionawr 2026, ac wedi’i ddadansoddi gan ddefnyddio MRP (atchweliad aml‑lefel ac ôl‑haenu).
Gellir dod o hyd i’r dadansoddiad llawn o ddata lefel rhanbarth ac etholaeth yma:
A ydych chi’n cefnogi gwneud marw â chymorth yn gyfreithlon yng Nghymru?
Pe bai marw â chymorth yn cael ei gyfreithloni, a ddylai fod yn hygyrch drwy wasanaethau GIG Cymru?
Er nad oes gan y Senedd y pwerau ar hyn o bryd i gyfreithloni marw â chymorth yng Nghymru, mae ganddi rôl allweddol i’w chwarae: bydd Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn cael ei gyflwyno os cyflwynir cynigion newydd yn San Steffan yn y sesiwn nesaf, gan y bydd penderfyniadau ynghylch darparu unrhyw wasanaeth marw â chymorth yn cael eu datganoli’n helaeth i’r Senedd a Llywodraeth Cymru.